Prentisiaeth BBC Radio Cymru EXTEND

BBC

Not Interested
Bookmark
Report This Job

profile Job Location:

Cardiff - UK

profile Monthly Salary: Not Disclosed
Posted on: 12 hours ago
Vacancies: 1 Vacancy

Job Summary

MANYLION Y SWYDD

BAND Y SWYDD: TRN
MATH O GONTRACT: Tymor Penodol Llawn amser am 8 wythnos
ADRAN: Radio Cymru
LLEOLIAD: Caerdydd neu Fangor
YSTOD CYFLOG: 24552 y flwyddyn - maer amrediad cyflog disgwyliedig ar gyfer y swydd hon yn adlewyrchu meincnodi mewnol a gwybodaeth am y farchnad allanol.

BBC EXTEND

Maer swydd hon yn cael ei hysbysebu fel rhan o raglen BBC Extend ar gyfer pobl anabl. I wneud cais am y rôl hon dylech ystyried eich hun yn fyddar yn anabl neun niwrowahanol a rhaid i chi fodloni naill ai: y diffiniad o anabledd yn Neddf Cydraddoldeb (2010) neur diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (1995) os ydych yn ymgeisio yng Ngogledd Iwerddon. Cewch eich diffinion fras fel unigolyn anabl o dan y ddwy ddeddf os oes gennych nam corfforol neu feddyliol syn cael effaith negyddol ac andwyol hirdymor a sylweddol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dyddiol arferol. Maer diffiniad hwn yn cynnwys cyflyrau a namau amlwg a heb fod yn rhai amlwg a chyflyrau meddygol fel Canser HIV neu Sglerosis Ymledol.

Rydym wedi ymrwymo i wneud y broses o wneud cais am y swydd hon mor hygyrch â phosibl. Os oes angen i chi drafod addasiadau neu ofynion mynediad ar gyfer y broses ymgeisio neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein rhaglen Extend cysylltwch â thîm BBC Extend drwy flwch derbyn Amrywiaeth a Chynhwysiant y BBC.

Maer BBC wedi ymrwymon llwyr i ddarparu addasiadau ir gweithle i helpu i gael gwared ar rwystrau yn y gweithle syn wynebu pobl anabl. I wneud hyn mae gennym ein Gwasanaeth Mynediad ac Anabledd pwrpasol ein hunain ar gyfer y BBC syn darparu asesiadau a chymorth drwy gydol ein cyflogaeth gyda ni. Os byddwch yn llwyddo yn eich cais am y rôl hon a bod angen addasiadau yn y gweithle arnoch byddwn yn gweithio gyda chi i roi eich addasiadau ar waith.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am BBC Extend ewch i dudalen we BBC Extend.

PWRPAS Y SWYDD

Dyma eich cyfle i brofi sut beth yw gweithio i Radio Cymru cartref radio Cymraeg. Byddwch yn derbyn profiad ymarferol dysgu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant gan ddatblygu eich sgiliau mewn amgylchedd creadigol a chyflym ei rythm.

Mae hyn yn fwy na phrofiad gwaith yn unig maen gyfle i dyfun bersonol ac yn broffesiynol mewn maes rydych chin angerddol amdano. Os ydych chin barod i adael eich marc ar ddarlledu dyma eich cyfle.

PAM YMUNO GYDAR TÎM :

Ymunwch â thîm syn gwerthfawrogi positifrwydd creadigrwydd a chydweithio. Maer cyfle unigryw hwn yn rhoi cipolwg i chi y tu ôl ir llen ar ddarlledu Cymraeg lle byddwch yn dysgu sut mae rhaglennin dod yn fyw gan gyfrannu at ddiwylliant cynhwysol a chefnogol. Cewch brofiad ymarferol gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol angerddol drwy ddatblygu sgiliau a fydd yn siapio eich dyfodol.

EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU ACH DYLANWAD :

  • Meddu ar agwedd ragweithiol tuag at ddysgu.
  • Bod yn gyfforddus yn gofyn cwestiynau er mwyn datblygiad personol.
  • Agored i ymgysylltu mewn amgylchedd gwaith strwythuredig syn newid yn barhaus.

EICH SGILIAU ACH PROFIAD :

  • Angerdd dros ddarlledu ar cyfryngau.
  • Cymhelliant i hunan-ddatblygu er mwyn paratoi ar gyfer datblygiad gyrfa.
  • Profiad o ymgolli yng nghynnwys y BBC gydar gallu iw adolygun feirniadol.
  • Cydweithio a chyfathrebun effeithiol ag eraill.

MEINI PRAWF HANFODOL :

  • Siaradwr Cymraeg
  • Angerdd dros ddarlledu ar cyfryngau
MANYLION Y SWYDD BAND Y SWYDD: TRNMATH O GONTRACT: Tymor Penodol Llawn amser am 8 wythnosADRAN: Radio CymruLLEOLIAD: Caerdydd neu FangorYSTOD CYFLOG: 24552 y flwyddyn - maer amrediad cyflog disgwyliedig ar gyfer y swydd hon yn adlewyrchu meincnodi mewnol a gwybodaeth am y farchnad allanol.BBC EXTEND...
View more view more

Key Skills

  • Electrical Controls
  • End User Support
  • Events Management
  • Customer Relationship
  • Arbitration Law

About Company

Company Logo

The best of the BBC, with the latest news and sport headlines, weather, TV & radio highlights and much more from across the whole of BBC Online.

View Profile View Profile