Math o Gontract:Prentisiaeth Cyfnod Penodol Llawn-amser am 13 mis
Adran:Meithrin Potensial
Lleoliad:Caerdydd - 3 Sgwâr Canolog
Cyflog:22950
Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb ich gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo ich helpu chi i ddatblygu eich sgiliau ach talent. Byddwch yn dysgu yn y gwaith ac yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth ach sgiliau mewn maes y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo a hynny wrth weithio tuag at eich cymhwyster prentisiaeth gydag un on darparwyr dysgu.
Dyma gyfle i chi lansio gyrfa yng nghanol y byd darlledu ym nin chwilio am unigolion syn frwd dros ganfod sut rydym nin creu cynnwys ac yn dod â syniadaun dibynnu ar ardal eich lleoliad gallech chi fod yn gweithio y tu ôl ir llenni ar gynyrchiadau cyffrous megis dramâu gafaelgar neu wefr radio byw ac ennill cymhwyster cydnabyddedig wrth ddysgu yn y gwaith. Dyma gyfle i chi ehangu eich gwybodaeth am gynhyrchu wrth weithio ar gynnwys syn bwysig i filiynau.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau rydym nin eu cynnig gallwch chi gofrestru i ymuno ag un on gweminarau yma.Sylwch fod y weminar ar gyfer y cynllun hwn yn cael ei chynnal nos Fercher 10 Rhagfyr am 6pm.Os nad ydych chin gallu bod yn bresennol neu os ydych chi wedi gweld hyn ar ôl y dyddiad hwnnw cadwch lygad ar ein rhestr o weminarau ar Youtube yma lle bydd y fideon cael ei uwchlwytho.
Fel prentis Cynhyrchu dyma gyfle gwych i ddysgu tyfu a chyfrannu. Gallech chi:
Byddwch chin dysgu yn y gwaith ar tu allan ir gwaith. Mae hyn yn golygu y byddwch chi yn ogystal â dysgu ar eich lleoliad yn y BBC yn mynychu blociau dysgu (wythnos neu ddwy ar y tro) gydan darparwr dysgu gan weithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant sef Diploma Lefel 3 mewn Cyfryngau Digidol a Chreadigol. Bydd y blociau dysgun cael eu cyflwyno wyneb yn wyneb.
I gael rhagor o wybodaeth am y fframwaith prentisiaeth y byddwch yn ei astudio ewch ir ddolen hon.
Rydym ni eisiau gwybod pam eich bod chin awyddus i weithio yn y BBC ac mae gennym ddiddordeb yn eich brwdfrydedd i ddarparu cynnwys or radd flaenaf a rhagoriaeth weithredol in cynulleidfaoedd. Nid eich cymwysterau syn cael ein sylw yn hytrach chwilio am botensial a byddwn nin rhoi cyfle i chi roi eich profiad ach cryfderau trosglwyddadwy ar waith mewn gwahanol ffyrdd.
Os oes gennych chi rai or sgiliau ar profiadau hyn ynghyd â chryfderau trosglwyddadwy byddem yn falch o glywed gennych chi ac rydym yn eich annog i wneud cais. Rydym nin chwilio am y canlynol:
Maer cynllun hwn wedii anelu at bobl heb raddio.Os oes gennych chi radd a bod gennych chi ddiddordeb mewn rolau tebyg yn y BBC rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais am swyddi ar wefan gyrfaoedd y BBC neun edrych ar ein cynlluniau prentisiaeth eraill.
Maen rhaid i chi fodlonir gofynion canlynol i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth yn y BBC:
Ar gyfer ymgeiswyr o dan 19 oed ar 8 Medi 2026: I gwblhaur brentisiaeth rhaid i chi fod wedi cael Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn: Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif o fewn 12 mis cyntaf y brentisiaeth.
Peidiwch â chollir cyfle i fod yn rhan o rywbeth cyffrous. Ydych chin gweld eich hun yn ffynnu yn y rôl hon Cliciwch Ymgeisio Nawr!
Bydd angen i chi greu proffil ymgeisydd ac ateb ambell gwestiwn - does dim angen CV na llythyr cais.
Os ydych chin gymwys byddwn nin eich tywys drwyr camau nesaf gan roi syniad i chi o beth iw ddisgwyl.
Bydd angen i chi fyw o fewn pellter teithio i leoliad y swydd hon. Eisiau gweithio o leoliad gwahanol Edrychwch ar ein hysbysebion eraill - ond cofiwch mai dim ond am un swydd y gallwch chi wneud cais.
Maer BBC yn cydnabod y gallai fod angen i rai pobl syn gwneud cais am Gynllun Prentisiaeth y BBC symud i leoliad newydd ar gyfer y rôl ac efallai na fydd hyn yn bosibl oherwydd eich cyfyngiadau ariannol personol. Cynigir cymorth adleoli i nifer cyfyngedig o brentisiaid bob blwyddyn ac fe fyddai hyn yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd hon yn amodol ar fodlonir meini prawf cymhwyso ar gyfer cymorth adleoli. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu ag ymgeiswyr yn ystod y broses recriwtio. Mae manylion y cymorth ehangach sydd ar gael yn y BBC ar gael yma.
Mae hon yn brentisiaeth am gyfnod penodol - bydd eich contract yn para hyd ddiwedd y cynllun.
Yn ystod eich prentisiaeth byddwch chin cael eich cefnogi i ddatblygu yn eich gyrfa ac yn derbyn hyfforddiant cyflogadwyedd a chyfleoedd i rwydweithio ich helpu i gymryd y camau nesaf - boed hynny gydar BBC neu gyda sefydliad arall yn y diwydiant. PRA26
The best of the BBC, with the latest news and sport headlines, weather, TV & radio highlights and much more from across the whole of BBC Online.