Enter a job title or keyword

Swyddog Dalfa Carchar

G4S


Job Location:

Bridgend - UK

Monthly Salary: Not provided by the employer
Posted: 14 August 2026 (8 days ago)
Application Deadline: 11 November 2026
Vacancies: 1 Vacancy

Job Summary

SWYDDOG DALFA CARCHAR

CEF a STI PARC PEN-Y-BONT AR OGWR CF35 6AP

Parhaol Llawn Amser (40 awr yr wythnos)

Mae shifftiaun cynnwys diwrnodau diwrnodau hir a nosweithiau.

Mae penwythnosau wediu cynnwys ym mhob patrwm shifft gan weithio bob yn ail benwythnos (Sadwrn a Sul).

Os dymunwch ystyried rôl ran-amser mae gennym opsiynau 20 awr a 30 awr ar gael. Fodd bynnag maer hyfforddiant cychwynnol o 10 wythnos yn Llawn Amser (40 awr). Os oes gennych ddiddordeb mewn rôl ran-amser rhowch wybod i ni yn ystod eich cyfweliad.

Cyflog Cychwynnol:31780.35

Ar ôl 1 Flwyddyn o wasanaeth:32588.33

Ar ôl 3 Blynedd o wasanaeth:33934.95

Ar ôl 5 Mlynedd o wasanaeth:35550.90

Unrhyw un syn ymuno o Orffennaf 2026 ymlaen - Ar ôl cwblhau 18 mis o wasanaeth a chyfnod prawf llwyddiannus byddwch yn derbyn bonws o 1000*

Buddion:Pensiwn Cwmni hawl i wyliau blynyddol o 264 awr y flwyddyn gan gynnwys Gwyliau Banc parcio am ddim ar y safle ffreutur staff gwisg unffurf am ddim mynediad at ddisgowntiau Siopau Stryd Fawr ac hyfforddiant a datblygiad helaeth.

Gwneud Gwahaniaeth Bob Dydd

Rydym yn chwilio am Swyddogion Gwarchod Carchar (SGCau) syn gyfathrebwyr gwych yn gydnerth ac yn wrandawyr da. Mae SGCau yn hanfodol i weithrediad effeithiol ein carcharau. Rydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir cyn belled â bod gennych uniondeb cydnerthedd a sgiliau cyfathrebu cryf. Nid oes angen cymwysterau na phrofiad penodol.

Bydd gan y bobl yn eich gofal amrywiaeth o wahanol anghenion ach rôl chi fydd sicrhau bod yr unigolion hynnyn cael eu trin ag urddas a pharch au helpu i ddod o hyd i ffordd newydd o fyw tran cynnal amgylchedd diogel sicr a strwythuredig.

Maen ofynnol i Swyddogion Gwarchod Carchar fod â lefel foddhaol o iechyd a ffitrwydd gan fod y rôl yn gorfforol heriol.

Ein Hathroniaeth

Nod ein carcharau yw adsefydlu troseddwyr au paratoi i ailintegreiddio ir gymdeithas. Rydym yn ymdrechu i normaleiddio amodau carchar ac adeiladu amgylchedd diogel i staff a charcharorion fel ei gilydd.

Ynghylch y Rôl

Byddwch yn sicrhau bod carcharorion yn cael eu trin ag urddas a pharch tran cynnal amgylchedd diogel a sicr. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu strwythur a threfn arferol gan sicrhau bod carcharorion yn mynychu gwaith ac addysg ac yn dilyn trefn y carchar.

Bydd gennych nifer o gyfrifoldebau allweddol syn cynorthwyo ag adsefydlu carcharorion yn ogystal â chwarae rhan ganolog wrth ddarparu strwythur a threfn arferol iddyntgan sicrhau eu bod yn cyrraedd y gwaith yn y bore yn ymgysylltun weithredol ag addysg a threfn y carchar ac yn ddiogel yn eu cell gydar nos.

  • Llenwi gwaith papur ac adroddiadau.
  • Cynnal cyfyngiadau ar ryddid carcharorion tran amddiffyn eu hawliau.
  • Sicrhau bod carcharorion yn derbyn eu trefn au breintiau.
  • Lleihau risgiau i ddiogelwch.
  • Rheoli digwyddiadau ac argyfyngau a all gynnwys defnyddio Dulliau Rheoli a Chatal (Control and Restraint) a Chamerâu Fideo ar y Corff (Body Worn Video Cameras).
  • Hybu diwylliant adsefydlu a gwaith tîm.
  • Herio ymddygiad gwael a hybu ymddygiad cadarnhaol.
  • Annog carcharorion i gymryd rhan mewn gweithgaredd pwrpasol a mynd ir afael âu hymddygiad troseddol.
  • Ymateb i gamddefnyddio sylweddau.
  • Darparu cymorth cyntaf fel CPR.
  • Asesu risg a bregusrwydd carcharorion au cyfeirio at ofal cymdeithasol os oes angen.
  • Cynorthwyo carcharorion ag anghenion niwroamrywiol.
  • Asesu anghenion gofal iechyd mewn argyfwng.
  • Cynnal sesiynau un-i-un wythnosol ar gyfer carcharorion bregus.
  • Cynnal gwiriadau llesiant.
  • Asesu risg o hunan-niweidio neu hunanladdiad.
  • Cefnogi llesiant meddwl carcharorion.

Hyfforddiant a Datblygiad

Rydym yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr am 10 wythnos gan gynnwys Dulliau Rheoli a Chatal Cymorth Cyntaf Sgiliau Rhyngbersonol ac Iechyd a Diogelwch.

At hynny rydym wedi lansio ein Llwybr Datblygu yn ddiweddar syn darparu camau datblygu gyrfa clir o fod yn Swyddog Gwarchod Carchar i fyny i reolwr canol pe bai hynny o ddiddordeb i chi ar ôl i chi gwblhau 2 flynedd yn y rôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Rydym yn annog ceisiadau o bob cefndir ac rydym yn gyflogwr cwbl gynhwysol. Rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol.

Diogelu

Mae G4S CaRS wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant ac oedolion mewn risg. Rhaid i ddeiliad y swydd ymgymryd âr lefel briodol o hyfforddiant ac maen gyfrifol am sicrhau eu bod yn deall ac yn gweithio o fewn polisïau diogelur sefydliad.

Ein Tîm

Mae ein tîm yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac rydym yn annog ffyrdd newydd o weithio i wella diogelwch a chefnogi carcharorion yn well. Byddwch yn dod o hyd i amgylchedd gwaith diogel cyfeillgar a phroffesiynol gydar holl gefnogaeth ac hyfforddiant sydd eu hangen arnoch i adeiladu gyrfa lwyddiannus.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr syn siarad Cymraeg. Os ydych yn llwyddiannus ac yn dymuno ich cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg rhowch wybod ir tîm Recriwtio.
  • Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
  • Maer swyddi gwag hyn yn amodol ar hanes gwiriadwy o 5 mlynedd a safonau fetio llym.
  • Rhaid i chi fod yn gymwys i weithio yn y DU; nid yw G4S yn darparu Nawdd (Sponsorship).
  • *Bydd y bonws o 1000 yn cael ei dalu yn eich cyflog ar ôl cwblhau 18 mis o wasanaeth ac ar yr amod eich bod wedi cwblhau eich cyfnod prawf yn llwyddiannus.

G4S yw busnes rhyngwladol Allied Universal darparwr gwasanaethau diogelwch a chyfleusterau blaenllawr byd a phartner dibynadwy i fwy na 400 o gwmnïaur Fortune 500. Mae Allied Universal yn darparu perthnasoedd cwsmeriaid heb eu hail atebion arloesol technolegau clyfar blaengar a gwasanaethau pwrpasol syn galluogi cleientiaid i ganolbwyntio ar eu craidd-fusnesau. Gyda gweithrediadau mewn dros 100 o wledydd a thiriogaethau Allied Universal ywr trydydd cyflogwr preifat mwyaf yng Ngogledd America ar seithfed yn y byd. Maer refeniw blynyddol oddeutu $23 biliwn. Nid oes pwrpas na chyfrifoldeb mwy na gwasanaethu a helpu i ddiogelu cwsmeriaid cymunedau a phobl. Am fwy o wybodaeth ewch i . Yn y DU mae gan y cwmni rwydwaith helaeth o swyddfeydd a mwy na 31000 o weithwyr.


About Company

Company Logo

aus.com

View Profile View Profile