Enter a job title or keyword

Golygydd Sgriptiau (Pobol y Cwm)

BBC


Job Location:

Cardiff - UK

Monthly Salary: Not provided by the employer
Posted: 27 May 2026 (30+ days ago)
Application Deadline: 24 August 2026
Vacancies: 1 Vacancy
The job posting is outdated and position may be filled

Job Summary

MANYLION Y SWYDD

BAND Y SWYDD: C

MATH O GONTRACT: 2 X Cytundeb llawn amser/Ymlyniad 6 Mis

ADRAN: Adran Castio Drama BBC Studios

LLEOLIAD: Stiwdios Porth y Rhath Caerdydd

YSTOD CYFLOG ARFAETHEDIG: Maer cyflog yn dibynnu ar sgiliau gwybodaeth a phrofiad perthnasol. Maer ystod cyflog disgwyliedig ar gyfer y rôl hon yn adlewyrchu meincnodi mewnol a mewnwelediadau or farchnad allanol.

NI YW BBC STUDIOS

Cwmni cyfryngau byd-enwog a ddeilliodd or BBC. Rydym nin cynhyrchu ac yn dosbarthu cynnwys teledu sain a digidol mwyaf poblogaidd y byd. Ein huchelgais yw bod yn gartref ir straeon mwyaf pwerus difyr ac ysbrydoledig i bobl ar draws y byd.

PWRPAS Y RÔL

Ymunwch âr opera sebon boblogaidd Pobol y Cwm fel Golygydd Sgriptiau a helpwch i lunio straeon pwerus syn cael eu gyrru gan gymeriadau ac syn adlewyrchu bywyd go iawn cymunedau gwledig Cymru. Byddwch yn rheoli sgriptiau cymhleth ar draws sawl pennod yn cydweithio ag awduron ac yn dod â dawn olygyddol i un o ddramâu mwyaf eiconig Cymru. Os ydych chin gyfathrebwr hyderus gyda greddfau golygyddol gloyw ac angerdd dros y rhaglen yna dymach cyfle i wneud argraff barhaol ar sefydliad cenedlaethol.

PAM YMUNO ÂR TÎM

Camwch i galon drama Cymru gyda thîm syn byw ac yn anadlu y grefft o ddweud straeon. Yn Pobol y Cwm byddwch chin helpu i lunio naratifau beiddgar ysgytwol syn sbarduno sgwrs genedlaethol. Wedich amgylchynu gan dîm creadigol ac angerddol byddwch chin datblygun gyflym yn meddwl yn fawr ac yn gwneud eich marc ar sioe syn rhan enfawr on diwylliant cenedlaethol.

EICH CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL ACH EFFAITH

Byddwch yn adrodd i Elin Blake y Cynhyrchydd Sgript

Bydd eich dyletswyddaun cynnwys y canlynol:-

Cynorthwyor Cynhyrchydd Sgript i gyflwyno drama o ansawdd uchel syn gost-effeithiol o fewn fframwaith Canllawiau Golygyddol y BBC ar amcanion Corfforaethol

Mynychu a chyfrannu at gyfarfodydd sgriptior gyfres

Cyd-weithio gydag awduron ar Cynhyrchydd Sgript i greu sgriptiau safonol clir a chreadigol syn gyson â gweledigaeth olygyddol y gyfres

Mynychu cyfarfodydd sgriptiau a chyfleu nodiadaur gyfres ir awduron llawrydd

Mynychu ymarferion ac ymateb i unrhyw sylwadau gan gyfarwyddwyr neu actorion ar ran y gyfres

Annog meithrin a datblygu talent a gallu creadigol ar ran Pobol y Cwm

Cynorthwyor Cynhyrchydd Sgript a Stori yn ôl yr angen

Bod ar shifftiau cynnar neu hwyr o bryd iw gilydd i gydfynd ag oriau stiwdio

Gwarchod gweledigaeth y sgriptiau wrth iddynt fynd drwyr broses ffilmio

EICH SGILIAU ACH PROFIAD

MEINI PRAWF HANFODOL:

Meddwl yn ddadansoddol - gallu symleiddio problemau cymhleth au gwerthuso yn systematig.

Cyfathrebu - y gallu i fynegi syniadau yn glir ac addasu arddull gyfathrebu i anghenion pobl eraill gan ddefnyddio amrywiaeth o arddulliau ac ymagweddau syn addas ir gynulleidfa a natur y wybodaeth. Y gallu i ddeall effaith arddull gyfathrebu bersonol ar eraill.

Meddwl yn greadigol - gallu troi syniadau/ysgogiadau creadigol yn realiti ymarferol. Gallu edrych ar sefyllfaoedd a phroblemau presennol mewn ffyrdd newydd a chreu datrysiadau creadigol.

Barn Olygyddol - Y gallu i ddangos barn gytbwys a gwrthrychol yn seiliedig ar ddealltwriaeth drylwyr o frîff comisiynur prosiect gofynion y gynulleidfa canllawiau ac amcanion y prosiect.

Rheoli cydberthnasau a gweithio mewn tîm Y gallu i greu a chynnal cydberthynas waith effeithiol ag amrywiaeth o bobl. Cydweithio ag eraill i fod yn rhan o dîm yn hytrach na gweithio fel unigolyn neun gystadleuol.

Gwybodaeth glir a brwdfrydedd dros Ddrama Teledu Theatr a Ffilm yng Nghymru yn enwedig Pobol y Cwm.


Os gallwch chi ddod â rhai or sgiliau ar profiadau hyn ynghyd â chryfderau y gellir eu trosglwyddo byddem wrth ein bodd yn clywed gennych ac yn eich annog i wneud cais cyn gynted â phosib


About Company

Company Logo

The best of the BBC, with the latest news and sport headlines, weather, TV & radio highlights and much more from across the whole of BBC Online.

View Profile View Profile