Ymchwilydd, Radio Cymru EXTEND

BBC

Not Interested
Bookmark
Report This Job

profile Job Location:

Cardiff - UK

profile Monthly Salary: £ 24600 - 32500
Posted on: 30+ days ago
Vacancies: 1 Vacancy

Job Summary

MANYLION Y SWYDD

BAND Y SWYDD: B
MATH O GONTRACT: Swydd barhaol llawn amser
ADRAN: BBC Radio Cymru
LLEOLIAD: Caerdydd
YSTOD CYFLOG: Ystod cyflog 24600 - 32500 yn ddibynnol ar sgiliau gwybodaeth a phrofiad perthnasol

BBC EXTEND

Maer swydd hon yn cael ei hysbysebu fel rhan o raglen BBC Extend ar gyfer pobl anabl. I wneud cais ar gyfer y swydd hon dylech chi nodi eich bod yn fyddar yn anabl neun niwrowahanol ac maen rhaid i chi fodloni naill ai y diffiniad o anabledd yn Neddf Cydraddoldeb (2010) neur diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (1995) os ydych chin gwneud cais yng Ngogledd Iwerddon. Cewch eich diffinion fras fel unigolyn anabl o dan y ddwy ddeddf os oes gennych chi nam corfforol neu feddyliol syn cael effaith negyddol ac andwyol hirdymor a sylweddol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dyddiol arferol. Maer diffiniad hwn yn cynnwys cyflyrau ac amhariadau amlwg a heb fod yn rhai amlwg a chyflyrau meddygol fel Canser HIV neu Sglerosis Ymledol.


Rydym ni wedi ymrwymo i wneud y broses o wneud cais am y swydd hon mor hygyrch â phosibl. Os oes angen i chi drafod addasiadau neu ofynion mynediad ar gyfer y broses ymgeisio neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein rhaglen Extend cysylltwch â


Maer BBC wedi ymrwymon llwyr i ddarparu addasiadau ir gweithle i helpu i gael gwared ar rwystrau yn y gweithle syn wynebu pobl anabl. I wneud hyn mae gennym ein Gwasanaeth Mynediad ac Anabledd pwrpasol ein hunain ar gyfer y BBC syn darparu asesiadau a chymorth drwy gydol eich cyflogaeth gyda ni. Os byddwch chin llwyddo yn eich cais am y swydd hon a bod angen addasiadau yn y gweithle arnoch chi byddwn yn gweithio gyda chi i roi eich addasiadau ar waith.


Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am BBC Extend ewch i dudalen we BBC Extend. (EXTEND code: EX2324).

PWRPAS Y SWYDD

Mae Radio Cymru wedi bod yn darlledu ers 1977 gyda Radio Cymru 2 yn lansio yn 2018. Rydym yn darlledu ar gyfartaledd dros 22 awr o raglenni bob dydd i dros 100000 o wrandawyr ar draws Cymru ar byd. Mae Radio Cymru yn gwasanaethu siaradwyr Cymraeg o bob oedran a diddordeb drwy ddarparu rhaglenni cerddoriaeth rhaglenni dogfen rhaglenni trafod materion cyfoes a gwleidyddiaeth crefydd y celfyddydau a llawer mwy.
Mae gan yr orsaf wasanaeth newyddion a chwaraeon llawn. Rydym hefyd yn darlledu o digwyddiadau o bob math fel Eisteddfod yr Urdd Tafwyl Y Sioe Frenhinol ar Eisteddfod Genedlaethol. Cerddoriaeth gyfoes yw pwyslais Radio Cymru 2. Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn ymchwilydd ar amrywiaeth o raglenni ar draws Radio Cymru a Radio Cymru 2.

PAM YMUNO ÂR TÎM
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn berson brwdfrydig creadigol a threfnus ac yn angerddol dros greu cynnwys or safon uchaf. Bydd yr ymgeisydd yn gweithion dda fel unigolyn neu fel rhan o dîm ac yn dangos parch tuag at gydweithwyr. Bydd disgwyl ymddygiad proffesiynol o fewn y gweithle a medru addasu i ofynion golygyddol wrth weithio gyda chynhyrchydd a thim pellach.

EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU ACH DYLANWAD:

Fel rhan o dîm cynhyrchu hynod greadigol byddwch yn ymchwilio ac yn datblygu syniadau a chynnwys amrywiol ac ar brydiau o fewn amserlen heriol. Byddwch yn cyfrannu at yr ymdrech ddarlledu a chyhoeddir cynnwys yna ar Radio Cymru neu Radio Cymru 2. Byddwch yn derbyn hyfforddiant stiwdio golygu ffilmio a phob math o brofiadau difyr i gyrraedd cynulleidfa.

MEINI PRAWF HANFODOL:

  • Angerdd tuag at ymchwilio cynnwys creadigol a pharodrwydd i gyfrannu i nifer o raglenni amrywiol Radio Cymru.
  • Ymwybyddiaeth o ofynion llwyfannau digidol gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol ar cyfleon allai godi i Radio Cymru a Radio Cymru 2 yn eu sgil.
  • Ymwybyddiaeth o arddull wahanol Radio Cymru a Radio Cymru 2 a gwybodaeth am yr orsaf ai rhaglenni.
  • Parodrwydd i ddysgu sut i ddefnyddio systemau a gweithdrefnau darlledu newydd.
  • Cymraeg llafar ac ysgrifenedig derbyniol
MANYLION Y SWYDD BAND Y SWYDD: BMATH O GONTRACT: Swydd barhaol llawn amserADRAN: BBC Radio CymruLLEOLIAD: CaerdyddYSTOD CYFLOG: Ystod cyflog 24600 - 32500 yn ddibynnol ar sgiliau gwybodaeth a phrofiad perthnasolBBC EXTEND Maer swydd hon yn cael ei hysbysebu fel rhan o raglen BBC Extend ar gyfer pobl...
View more view more

Key Skills

  • Electrical Controls
  • End User Support
  • Events Management
  • Customer Relationship
  • Arbitration Law

About Company

Company Logo

The best of the BBC, with the latest news and sport headlines, weather, TV & radio highlights and much more from across the whole of BBC Online.

View Profile View Profile