Uwch Newyddiadurwr EXTEND

BBC

Not Interested
Bookmark
Report This Job

profile Job Location:

Aberystwyth - UK

profile Monthly Salary: £ 41200 - 57067
Posted on: 18 hours ago
Vacancies: 1 Vacancy

Job Summary

MANYLION Y SWYDD

BAND Y SWYDD: D
MATH O GONTRACT: Parhaol llawn amser
ADRAN: Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru Wales
LLEOLIAD: Caerfyrddin neu Aberystwyth
YSTOD CYFLOG: 41200 - 57067 yn ddibynnol ar sgiliau gwybodaeth a phrofiad perthnasol. Maer amrediad cyflog disgwyliedig ar gyfer y swydd hon yn adlewyrchu meincnodi mewnol a gwybodaeth am y farchnad allanol.

Rydym nin fodlon trafod gweithion hyblyg. Os hoffech chi wneud hynny gofynnir yn garedig i chi nodi eich dymuniadau yn y cais ond does dim rhaid i chi wneud hynny nawr. Bydd gweithion hyblyg yn rhan or drafodaeth pan gynigir y swydd.

Mae sgiliaur Iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon / Welsh language skills are essential for this role

BBC EXTEND

Maer swydd hon yn cael ei hysbysebu fel rhan o raglen BBC Extend ar gyfer pobl anabl. I wneud cais ar gyfer y swydd hon dylech chi nodi eich bod yn fyddar yn anabl neun niwrowahanol ac maen rhaid i chi fodloni naill ai y diffiniad o anabledd yn Neddf Cydraddoldeb (2010) neur diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (1995) os ydych chin gwneud cais yng Ngogledd Iwerddon. Cewch eich diffinion fras fel unigolyn anabl o dan y ddwy ddeddf os oes gennych chi nam corfforol neu feddyliol syn cael effaith negyddol ac andwyol hirdymor a sylweddol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dyddiol arferol. Maer diffiniad hwn yn cynnwys cyflyrau ac amhariadau amlwg a heb fod yn rhai amlwg a chyflyrau meddygol fel Canser HIV neu Sglerosis Ymledol.


Rydym ni wedi ymrwymo i wneud y broses o wneud cais am y swydd hon mor hygyrch â phosibl. Os oes angen i chi drafod addasiadau neu ofynion mynediad ar gyfer y broses ymgeisio neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein rhaglen Extend cysylltwch â


Maer BBC wedi ymrwymon llwyr i ddarparu addasiadau ir gweithle i helpu i gael gwared ar rwystrau yn y gweithle syn wynebu pobl anabl. I wneud hyn mae gennym ein Gwasanaeth Mynediad ac Anabledd pwrpasol ein hunain ar gyfer y BBC syn darparu asesiadau a chymorth drwy gydol eich cyflogaeth gyda ni. Os byddwch chin llwyddo yn eich cais am y swydd hon a bod angen addasiadau yn y gweithle arnoch chi byddwn yn gweithio gyda chi i roi eich addasiadau ar waith.


Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am BBC Extend ewch i dudalen we BBC Extend. (EXTEND code: EX2324).

PWRPAS Y SWYDD

Cyfle i gymryd yr awenau yn y Canolbarth ar Gorllewin gan drefnu allbwn newyddion ar draws teledu radio a digidol yn Gymraeg a Saesneg. Fel yr Uwch-Newyddiadurwr chi fydd yn gyfrifol am osod blaenoriaethau golygyddol a threfnu adnoddau o ddydd-i-ddydd i sicrhau fod straeon or rhanbarth yn cyrraedd y gynulleidfa ehangaf posibl.

PAM YMUNO ÂR TÎM

Mae hon yn swydd brysur yn trefnu gwaith pump o ohebwyr ar draws y Gorllewin ar Canolbarth. Maen dim bach ond llwyddiannus syn hanfodol i nod yr adran newyddion o adrodd straeon ar draws bob cyfrwng yn y ddwy iaith.
Maen gyfle i weithion greadigol ac i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth yn ogystal â bod yn rhan o dîm ehangach syn gweithio mewn ffordd brysur chyffrous.

EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU ACH DYLANWAD:

  • Comisiynu a dewis cynnwys perthnasol a gafaelgar gan sicrhau fod y rhain yn unol ân targedau strategol ac yn cyd-fynd an canllawiau golygyddol.
  • Fel bo angen dosrannu gwaith ar draws y tîm a gwirio cynnydd; sicrhau fod staff yn cyfrannu mewn modd proffesiynol a gwirio safon yr allbwn cyn darlledu neu gyhoeddi.
  • Arwain drwy newid gan gyfathrebun glir ac annog y tîm i ddilyn yr arferion orau.
  • Cyrraedd deadlines tran sicrhaur safonau golygyddol uchaf.
  • Gweithredun unol a pholisi Iechyd a Diogelwch y BBC bob amser.

EICH SGILIAU ACH PROFIAD

MEINI PRAWF HANFODOL:

  • Lefel uchel iawn o grebwyll golygyddol a sgiliau cynhyrchu yn seiliedig ar brofiad sylweddol o newyddiaduraeth.
  • Y gallu i gael y gorau or adnoddau ar dechnoleg sydd ar gael.
  • Y gallu i weithion effeithiol fel rhan o fwy nag un tîm.
  • Y gallu i reoli adnoddau staff technoleg a chyllidebau er mwyn cynhyrchu cynnwys gwerth chweil yn y modd mwyaf effeithlon.
  • Y gallu i gynllunio a blaenoriaethu yn unol â thargedau strategol yr adran newyddion gan ystyried ffactorau perthnasol megis deadlines staffio ac adnoddau.


DYMUNOL OND DDIM YN OFYNNOL:

  • Y gallu i ysgrifennun greadiogol mewn modd gafaelgar gan gynnwys y gallu i gyfieithun gryno ac yn gywir.

Os oes gennych chi rai or sgiliau ar profiadau hyn ynghyd â chryfderau trosglwyddadwy byddem yn falch o glywed gennych chi ac rydym yn eich annog i wneud cais.

MANYLION Y SWYDD BAND Y SWYDD: DMATH O GONTRACT: Parhaol llawn amserADRAN: Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru WalesLLEOLIAD: Caerfyrddin neu AberystwythYSTOD CYFLOG: 41200 - 57067 yn ddibynnol ar sgiliau gwybodaeth a phrofiad perthnasol. Maer amrediad cyflog disgwyliedig ar gyfer y swydd hon yn a...
View more view more

About Company

Company Logo

The best of the BBC, with the latest news and sport headlines, weather, TV & radio highlights and much more from across the whole of BBC Online.

View Profile View Profile