Prentisiaeth Newyddiadurwr Iau Lefel 5 BBC Chwaraeon Caerdydd Welsh Language Sport

BBC

Not Interested
Bookmark
Report This Job

profile Job Location:

Cardiff - UK

profile Monthly Salary: Not Disclosed
Posted on: 23-10-2025
Vacancies: 1 Vacancy

Job Summary

Math o Gontract:Prentisiaeth Cyfnod Penodol Llawn-amser am 24 mis

Lleoliad:Caerdydd - 3 Sgwâr Canolog

Cyflog:22950

AI UN O BRENTISIAETHAUR BBC YWR SWYDD NESAF I CHI

Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb ich gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo ich helpu chi i ddatblygu eich sgiliau ach talent. Byddwch yn dysgu yn y gwaith ac yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth ach sgiliau mewn maes y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo a hynny wrth weithio tuag at eich cymhwyster prentisiaeth gydag un on darparwyr dysgu.

PAM YMUNO ÂR CYNLLUN

Maer Brentisiaeth Newyddiadurwr Iau yn ddelfrydol ar gyfer unigolion chwilfrydig syn frwd dros adrodd straeon. Os ydych chi newydd adael yr ysgol neu ar fin gorffen yr ysgol ac nad yw prifysgol yn addas i chi maer rhaglen hon yn darparu hyfforddiant newyddiaduraeth or radd flaenaf gydar darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf y byd.

Byddwch yn cael profiad ymarferol wrth weithio tuag at Ddiploma NCTJ mewn Newyddiaduraeth a chymhwyster prentisiaeth Lefel 5 gan eich paratoi ar gyfer dyfodol yn y diwydiant.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau rydym nin eu cynnig gallwch gofrestru i ymuno ag un on gweminarau yma. Cadw llygad ar ein rhestr chwarae gwe-dathliad ar Youtube yma.

PAM YMUNO ÂR TÎM

Mae gan Adran Chwaraeon BBC Cymru Wales hanes anhygoel o ddatblygu a darparu cynnyrch gwreiddiol a gwahanol yn ddyddiol ar draws llwyfannau digidol y teledu ar radio gan gynnwys brandiau hysbys sydd ag enw da fel Scrum V MOTD Wales Clwb Rygbi Feast of Football Radio Wales Sport Chwaraeon Radio Cymru a BBC Sport ar-lein. Rydym yn chwilio am brentisiaid syn frwd dros chwaraeon ac syn awyddus i weithio gyda rhai o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf Cymru mewn amgylcheddau gwaith prysur.

EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU ACH DYLANWAD

Fel Prentis Newyddiadurwr Iau dyma gyfle gwych i ddysgu tyfu a chyfrannu. Byddwch yn:

  • Gweithio ochr yn ochr â thimau newyddion chwaraeon i ddatblygu eich sgiliau newyddiadurol gan greu a darparu cynnwys o safon ar gyfer y BBC
  • Yn rhan o holl weithgareddaur ystafell newyddion chwaraeon fel dod o hyd i gyfranwyr neu westeion difyr ysgrifennu briffiau ar gyfer eich tîm neu ffilmio a golygu ffilmiau
  • Canfod a chreu straeon ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol gan gynnwys meddwl am syniadau newydd cynnal ymchwil fanwl a chynorthwyo gyda chyfweliadau
  • Gweithio gydag arbenigwyr yn y sefydliad darlledu gwasanaeth cyhoeddus mwyaf yn y byd a dysgu ganddynt.

Byddwch yn astudio ar gyfer cymhwyster prentisiaeth syn cael ei gydnabod yn y diwydiant gan ddysgu yn y gwaith ar tu allan ir gwaith. Mae hyn y byddwch chi fel prentis yn dilyn y safon Prentisiaeth Newyddiadurwr (cwricwlwm) ac yn gweithio tuag at gymhwyster syn cael ei gydnabod gan y diwydiant sef Diploma NCTJ mewn Newyddiaduraeth. Asesir hyn drwy arholiadau a gwaith cwrs.

I gael rhagor o wybodaeth am fframwaith y brentisiaeth ewch ir ddolen hon (JRA26).Mae rhagor o wybodaeth am Ddiploma NCTJ ar gael drwy ddilyn y ddolen hon.

EICH SGILIAU ACH CYMHWYSEDD

Rydym ni eisiau gwybod pam eich bod chin awyddus i weithio yn y BBC ac mae gennym ddiddordeb yn eich brwdfrydedd i ddarparu cynnwys or radd flaenaf a rhagoriaeth weithredol in cynulleidfaoedd. Nid ydym yn canolbwyntio ar eich cymwysterau yn hytrach rydyn nin chwilio am botensial a byddwn yn rhoi cyfle i chi roi eich profiad ach cryfderau trosglwyddadwy ar waith mewn gwahanol ffyrdd.

Os oes gennych chi rai or sgiliau ar profiadau hyn ynghyd â chryfderau trosglwyddadwy byddem yn falch o glywed gennych chi ac rydym yn eich annog i wneud cais:

  • Yn chwilfrydig iawn am chwaraeon ar newyddion oi gwmpas
  • Yn llawn syniadau creadigol a ffyrdd llawn dychymyg o adrodd straeon
  • Yn frwd dros gynhyrchu cynnwys chwaraeon mewn newyddion a materion cyfoes ar draws teledu sain ar-lein a chyfryngau cymdeithasol
  • Mae ysgrifennu yn eich cyffroi
  • Agwedd hyblyg llawn cymhelliant ac yn barod i addasu i gyflymder ystafell newyddion chwaraeon.

Maer cynllun hwn wedii anelu at bobl heb raddio. Os oes gennych chi radd neu ddiploma NCTJ mewn Newyddiaduraeth ach bod yn dymuno hyfforddi fel Newyddiadurwr yn y BBC rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais am Brentisiaeth Newyddiadurwr Lefel 6.

MEINI PRAWF CYMHWYSEDD

Maen rhaid i chi fodlonir canlynol i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth yn y BBC:

  • Bod yn 18 oed neun hŷn erbyn y bydd y brentisiaeth yn dechrau ym mis Medi 2026
  • Bod wedi byw yn y DU yn ddi-dor am y 3 blynedd cyn dechraur brentisiaeth
  • Bod yn gymwys yn gyfreithiol i weithion llawn-amser yn y Deyrnas Unedig am holl gyfnod y brentisiaeth
  • Bod heb gofrestru ar gynllun prentisiaeth arall syn cael ei gefnogi gan y BBC neu sefydliad arall ar hyn o bryd.

I wneud cais am y cynllun hwn rhaid bodlonir canlynol hefyd:

  • Nid ydych wedi cwblhau nac yn astudio ar gyfer diploma NCTJ neu gymhwyster newyddiaduraeth ar yr un lefel neu uwch
  • Mae gennych un ai TGAU Mathemateg a Saesneg Gradd 4/C gradd C mewn cymhwyster National 5 (yr Alban) Sgiliau Swyddogaethol Lefel 2; neu gymhwyster cyfatebol.

I gwblhaur prentisiaeth maen rhaid i chi gael Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn: Cyfathrebu a Chymhwyso Nifer o fewn y 12 mis cyntaf or prentisiaeth.

BAROD I YMGEISIO

Peidiwch â chollir cyfle i fod yn rhan o rywbeth cyffrous. Ydych chin gweld eich hun yn ffynnu yn y rôl hon Cliciwch Ymgeisio Nawr!

Bydd angen i chi greu proffil ymgeisydd ac ateb ambell gwestiwn - does dim angen CV na llythyr cais.

Os ydych chin gymwys byddwn nin eich tywys drwyr camau nesaf gan roi syniad i chi o beth iw ddisgwyl.

Bydd angen i chi fyw o fewn pellter teithio i leoliad y swydd hon. Eisiau gweithio o leoliad gwahanol Edrychwch ar ein hysbysebion eraill - ond cofiwch mai dim ond am un swydd y gallwch wneud cais.

Mae hon yn brentisiaeth am gyfnod penodol - bydd eich contract yn para hyd ddiwedd y ôl cwblhaur cynllun byddwch chin cael eich cefnogi i ddatblygu yn eich gyrfa ac yn derbyn hyfforddiant cyflogadwyedd a chyfleoedd i rwydweithio ich helpu i gymryd y camau nesaf - boed hynny gydar BBC neu gyda sefydliad arall yn y diwydiant.

Math o Gontract:Prentisiaeth Cyfnod Penodol Llawn-amser am 24 misLleoliad:Caerdydd - 3 Sgwâr CanologCyflog:22950AI UN O BRENTISIAETHAUR BBC YWR SWYDD NESAF I CHI Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb ich gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo ich helpu chi i dda...
View more view more

Key Skills

  • Events
  • Electrical Installation
  • HR SAP
  • Maintenance Engineering
  • Contract

About Company

Company Logo

The best of the BBC, with the latest news and sport headlines, weather, TV & radio highlights and much more from across the whole of BBC Online.

View Profile View Profile