GADEWCH I NI FYND ATIN SYTH
Helo! Rydyn ni ynHafren Dyfrdwy un or 11 cwmni dŵr a dŵr gwastraff rheoleiddiedig yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn gwasanaethu dros 100000 o gartrefi a busnesau ledled canolbarth a cogledd Cymru ac mae ein ffocws parhaus ar gyflawni ar gyfer ein cwsmeriaid nawr ac am genedlaethau i ddod.
Gan gyflogi dros 200 o bobl rydym yn gwmni lleol wedii leoli yng nghanolbarth a gogledd Cymru syn darparu dŵr glân bob tro y mae ein cwsmeriaid yn troir tap ymlaen iw ddychwelyd i afonydd hyd yn oed yn lanach nag yr oeddem wedii gymryd rydym yn falch o ofalu am un o hanfodion bywyd.
Rydym yn angerddol dros sicrhau llesiant cenedlaethau yn ein rhanbarth ac o fewn Cymru gyfan yn y dyfodol ac mae chwarae ein rhan wrth gefnogir nodau llesiant yn ganolog in strategaeth. Mae yna rywbeth i bawb yma mewn gwirionedd.
Os ydych chi eisiau gwneud mwy oherwydd eich bod chin gofalu rydyn ni eich eisiau yn ein tîm.
GADEWCH I NI DDWEUD MWY WRTHOCH CHI
Yn Hafren Dyfrdwy rydym yn falch o gefnogir iaith Gymraeg dyna pam rydym yn gyffrous i rannu cyfle i chi ymuno ân tîm felCysylltydd Cymunedol Cymraeg.
Bydd y rôl hon yn gyfrifol am weithio gydan cwsmeriaid a sefydliadau allanol wyneb yn wyneb i gyflawni ein strategaethau Cymuned a Bregusrwydd ar draws ein rhanbarth ynghyd â darparu hyfforddiant a chyngor arbenigol i dimau rheng flaen ar sut y gallwn gefnogir rhai mae angen cymorth ychwanegol arnynt.
Eich cyfrifoldebau allweddol wrth ein cynorthwyo ar ein taith fydd:
Byddwch wedich lleoli yn ein Pencadlys Packsaddle yn Wrecsam ond byddwch allan yn ymweld ân cymunedau an rhanddeiliaid llawer or amser. Byddwch chin gweithio o fewn tîm bach ymroddedig a chan fod hon yn rôl mor hanfodol rydym yn chwilio am rywun a all ymuno â ni 37 awr yr wythnos yn gweithio ar draws ystod o amseroedd a allai gynnwys gydar nos a phenwythnosau.
SUT RYDYM NIN GWEITHIO
Byddwch chin ymuno â diwylliant gofalgar syn cydweithio i gyflawni tyfu a datblygu. Mae ein sgoriau ymgysylltu â chyflogeion ymhlith yr uchaf yn fyd-eang ym maes ynni a chyfleustodau. Dyna pam rydym yn gwerthfawrogi eiliadau wyneb yn wyneb i gadw ein diwylliant yn fyw ond hefyd yn deall yr hyblygrwydd y gall gweithio o gartref ei gynnig. Felly fel arfer byddwch chin dod o hyd i ni yn y swyddfa ond mae gweithio o gartref yn cael ei gefnogi pan fydd ei angen arnoch chi.
BETH RYDYM NIN CHWILIO AMDANO
I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon rhaid i chi allu cyfathrebun effeithiol yn y Gymraeg ar Saesneg.
Hoffem i chi gael hyder wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid ar bob lefel ar draws y busnes ac yn allanol yn y Gymraeg ar Saesneg. Ynghyd â phrofiad o weithio mewn amgylchedd adweithiol dan bwysau yn fewnol ac yn allanol gydag aelodaur cyhoedd.
Bydd angen i chi aros yn ddiffwdan o dan bwysau a gallu gweithion annibynnol. Byddwch yn gweithio mewn ystod eang o leoliadau o addysg i gyflogadwyedd. Gallech fod mewn ysgol yn cyflwyno i wahanol grwpiau oedran am yr hyn syn digwydd pan fyddwch chin fflysior toiled neun siarad â grwpiau cymunedol am gymorth gyda biliau dŵr a ffyrdd o arbed dŵr. Felly mae hyder wrth gyflwyno yn bendant yn rhywbeth sydd ei angen arnom.
Mae sgiliau a phrofiad yn bwysig ond mae cymeriad positifrwydd ac agwedd ofalgar yn bwysig hefyd. Rydym yn croesawu pobl o bob cefndir ac yn dathlu unigoliaeth gan ein bod yn gwybod bod meddyliau profiadau a chefndiroedd amrywiol yn ein helpu i ddysgu a gwasanaethu ein cymunedau yn yn chwilio am bobl syn bwrw iddi sydd eisiau bod yn rhan o rywbeth mwy a gwneud gwahaniaeth oherwydd eu bod nhwn malio.
SUT BYDDWN NI YN EIN TRO YN EICH GWOBRWYO AC YN GOFALU AMDANOCH CHI
Nid swydd yn unig yw hon; maen yrfa. Rydym yn cynnig buddion syn gwobrwyo gwaith gwych a hyfforddiant arobryn ich helpu i gyflawni eich potensial. Hefyd byddwch chin cyfrannu at yr amgylchedd ar gymuned hefyd. Dyma rai on ffefrynnau ni:
AMDANI
Rydym ar dân i glywed gennych chi! Oes gennych CV wedii ddiweddaru yn barod a neilltuo pum munud i wneud cais. Byddwn yn gwirio ceisiadau drwyr adeg a dywedwch I chi y ganlyniad unwaith y bydd eich CV wediw adolygu felly cadwch llygad ar eich ffôn ach negeseuon ebost.
Explore Severn Trent PLC. You will find information for investors, our share price and returns as well as all our career opportunities.