BAND Y SWYDD: C
MATH O GONTRACT: Parhaol rhan amser (24 awr yr wythnos)
ADRAN: BBC Addysg Cymru
LLEOLIAD: Caerdydd Sgwar Canolog
YSTOD CYFLOG: 30000- 39000yn ddibynnol ar sgiliau gwybodaeth a phrofiad perthnasol. Maer amrediad cyflog disgwyliedig ar gyfer y swydd hon yn adlewyrchu meincnodi mewnol a gwybodaeth am y farchnad allanol.
Maer gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol am y swydd hon.
Rydym nin fodlon trafod gweithion hyblyg. Os hoffech chi wneud hynny gofynnir yn garedig i chi nodi eich dymuniadau yn y cais ond does dim rhaid i chi wneud hynny nawr. Bydd gweithion hyblyg yn rhan or drafodaeth pan gynigir y swydd.
Maer swydd hon yn cael ei hysbysebu fel rhan o raglen BBC Extend ar gyfer pobl anabl. I wneud cais ar gyfer y swydd hon dylech chi nodi eich bod yn fyddar yn anabl neun niwrowahanol ac maen rhaid i chi fodloni naill ai y diffiniad o anabledd yn Neddf Cydraddoldeb (2010) neur diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (1995) os ydych chin gwneud cais yng Ngogledd Iwerddon. Cewch eich diffinion fras fel unigolyn anabl o dan y ddwy ddeddf os oes gennych chi nam corfforol neu feddyliol syn cael effaith negyddol ac andwyol hirdymor a sylweddol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dyddiol arferol. Maer diffiniad hwn yn cynnwys cyflyrau ac amhariadau amlwg a heb fod yn rhai amlwg a chyflyrau meddygol fel Canser HIV neu Sglerosis Ymledol.
Rydym ni wedi ymrwymo i wneud y broses o wneud cais am y swydd hon mor hygyrch â phosibl. Os oes angen i chi drafod addasiadau neu ofynion mynediad ar gyfer y broses ymgeisio neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein rhaglen Extend cysylltwch â .
Maer BBC wedi ymrwymon llwyr i ddarparu addasiadau ir gweithle i helpu i gael gwared ar rwystrau yn y gweithle syn wynebu pobl anabl. I wneud hyn mae gennym ein Gwasanaeth Mynediad ac Anabledd pwrpasol ein hunain ar gyfer y BBC syn darparu asesiadau a chymorth drwy gydol eich cyflogaeth gyda ni. Os byddwch chin llwyddo yn eich cais am y swydd hon a bod angen addasiadau yn y gweithle arnoch chi byddwn yn gweithio gyda chi i roi eich addasiadau ar waith.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am BBC Extend ewch i dudalen we BBC Extend. (EXTEND code: EX2324).
Ydych chin frwdfrydig creadigol ac eisiau ysbrydoli meddyliau ifanc Dewch i ymuno ag Adran Addysg BBC Cymru! Byddwch yn arwain ar greu cynnwys arloesol a dwyieithog ar gyfer pobl ifanc 316 oed cynnwys syn ysgogi a thanio chwilfrydedd ac yn trawsnewid bywydau drwy addysg. Or syniad cyntaf ir lansiad byddwch yn rhan ganolog or Adran. Os oes egni gweledigaeth ac angerdd am gynnwys digidol-addysgol dymar rol i chi.
PAM YMUNO ÂR TÎM
Byddwch yn ran or Adran Addysg yn gweithio ochr yn ochr â thimau golygyddol a thechnegol i helpu i gyfleu cynnwys newydd or radd flaenaf.
Nod BBC Addysg yw trawsnewid bywydau drwy addysg.
Yn ystod cyfnodau clo ysgolion darparodd yr Adran y gwasanaeth addysgol fwyaf erioed yn hanes y BBC a daeth cynulleidfaoedd anferth na welwyd or blaen in cynnwys addysg. Rydym yn parhau gydar llwyddiant yma gyda chynnwys newydd ar gyfer ein cynulleidfaoedd.
Ein nodau yw:
EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU ACH DYLANWAD
MEINI PRAWF HANFODOL:
DYMUNOL OND DDIM YN OFYNNOL
Os oes gennych chi rai or sgiliau ar profiadau hyn ynghyd â chryfderau trosglwyddadwy byddem yn falch o glywed gennych chi ac rydym yn eich annog i wneud cais.
The best of the BBC, with the latest news and sport headlines, weather, TV & radio highlights and much more from across the whole of BBC Online.